Yr Efengyl yn ôl Luc 14:13
Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:
Beibl (1620)
In The King James Version
But when thou makest a feast, call the poor, the maimed, the lame, the blind:
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 14
Cross References
Deuteronomy 16:11A llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo.
Deuteronomy 26:12¶ Pan ddarffo i ti ddegymmu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn, sef blwyddyn y deg wm; yna y rhoddi i’r Lefiad, i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bwyttaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.
2 Chronicles 30:24Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i’r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a’r tywysogion a roddasant i’r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant.
Nehemiah 8:12A’r holl bobl a aethant i fwyta ac i yfed, ac i anfon ymaith rannau, ac i wneuthur llawenydd mawr; oherwydd iddynt ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt.
Job 29:15Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff.
Proverbs 3:9Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth: