Yr Efengyl yn ôl Luc 14:12
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef. Pan wnelych ginio neu swpper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
13Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 14
Cross References
Proverbs 14:20Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.
Zechariah 7:5Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru. Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?
Matthew 6:1Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Luke 1:53Y rhai newynog a lanwodd efe a phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.
James 2:1Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb.