Yr Efengyl yn ôl Luc 20:9
Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a’i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 20
Cross References
Deuteronomy 16:18¶ Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.
Psalms 80:8Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd.
Isaiah 5:1Canaf yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon:
Matthew 21:33¶ Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
Mark 12:1A efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
John 15:1Myfi yw’r wir winwydden, a’m Tad yw’r llafurwr.