Yr Efengyl yn ôl Luc 9:26
Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r Tad, a’r angylion sanctaidd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25Canys pa lesad i ddyn, er ennill yr holl fyd, a’i ddifetha’i hun, neu fod wedi ei golli?
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 9
Cross References
Isaiah 53:3Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwyr; gŵr gofidus, a chynefin a dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono. º
Matthew 7:22Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?
Matthew 16:27Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.
Matthew 25:31¶ A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant.
Mark 8:38Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda’r angylion sanctaidd.
Luke 13:25Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych: