The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Luc · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Luc 9

1A efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau.

2Ac efe a’u hanfonodd hwynt i breg¬ethu teyrnas Dduw, ac i iachau’r rhai cleifion.

3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i’r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un.

4Ac i ba dy bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.

5A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt. - 1

6Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethaHt trwy’r trefis gan teegethu’r efengyl, a iacháu ym mhob lle.

7A Herod y tetrarch a glybu’r ewblott a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fad rhai yn dywedyd gyfodi loan o feirw;

8A rhai eraill, ymddangos o Eleias;. a rhai eraill, mai proffwyd, un o’r rhai gynt, a atgyfodasai.

9A Herod a ddywedodd, loan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yt oedd efe yn ceisio ei weled ef.;

10A’r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent. Ae efe a’u cymerth hwynt, ac a aeth o’r neilitu, i le anghyfannedd yn perthyna i’r ddiaas a elwir Bethsaida.

11A’r bobloedd pan wybuant, a’i dilynasant ef: ac efe a’u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiachau.

12A’r dydd a ddechreuodd hwyrhaa; a’r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i’r trefi, ac i’r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.

13Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum forth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu b i’r bobl hyn oll.

14Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.

15Ac felly y gwnaethant, a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.

16Ac efe a gymerodd y pum. torth, a’r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i’r nef, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a’u rorrodd, ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl.

17A hwynt-hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chytbdwyd a weddillasai iddynt o friwrwyil, ddeuddeg basgedaid.,.’

18Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gwedd" io ei hunaa, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddy¬wedyd, Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i?

19Hwythau gan ateb a ddywedasanty loan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac-eraill, mai rhyw broffwyd o’r rhai gyat a-atgyfododd.

20Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod ii A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist,,Duw.

21Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb;

22Gan ddywedyd, Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydid atgyfodi.

23Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei grees beunydd, a dilyned fi.

24Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi.

25Canys pa lesad i ddyn, er ennill yr holl fyd, a’i ddifetha’i hun, neu fod wedi ei golli?

26Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r Tad, a’r angylion sanctaidd.

27Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma a’r nid archwaethant angau, hyd oni welont, deyrnas Dduw.

28A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac loan, ac Iago, a myned i fyny i’r mynydd i weddïo.

29Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair.

30Ac wele, dau ŵr a gydymddi-ddanodd agef,yrhaioedd Moses acEleias:

31Y rhai a yniddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasarit am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem.

32A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef.

33A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.

34Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt-hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl.

35A daeth llef allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef.

36Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.

37A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod âg ef.

38Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyfyn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig-anedig yw.

39Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef.

40Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.

41A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma.

42Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.

43A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

44Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion.

45Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.

46A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt.

47A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl,

48Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.

49Ac loan a atebodd ac a ddywed¬odd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni.

50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i’n herbyn, trosom ni y mae

51A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau ( y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem.

52Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef.

53Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem.

54A’i ddisgyblion ef,. Iago ac loan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias?

55Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi.

56Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

58A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.

59Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Ar¬glwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

60Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw.

61Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhy.

62A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.

← Yr Efengyl yn ôl Luc 8Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Luc 10 →

Study Yr Efengyl yn ôl Luc 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324