Yr Efengyl yn ôl Luc 9:48
Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
47A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl,
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 9
Cross References
Matthew 10:40¶ Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i.
Matthew 18:10Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Matthew 19:28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
Matthew 25:40A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.
Mark 9:37Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.
Luke 10:16Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a’r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i.