Llyfr Malachi 2:17
Blinasoch yr ARGLWYDD â'ch geiriau: a chwi a ddywedwch. Ym mha beth y blinasom ef? Am i chwi ddywedyd, Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac iddynt y mae efe yn fodlon, neu, Pa le y mae DUW y farn?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 32:4Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.
Job 34:5Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf; a DUW a ddug ymaith fy marn.
Job 34:36Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir.
Psalms 10:11Canmolwch yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.
Psalms 95:9Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
Isaiah 1:14Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn.