Llyfr Malachi 3:2
Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel i sebon y golchyddion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 19:28Ac efe a edrychodd tu a Sodom a Gomorrah, a thu a holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.
Job 28:1Diau fod gwythen i’r arian; a lle i’r aur, lle y coethant ef.
Isaiah 1:18Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr ARGLWYDD: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.
Jeremiah 2:22Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Ar¬glwydd DDUW.
Amos 5:18Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr ARGLWYDD! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr ARGLWYDD.
Malachi 4:1Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.