The Bible Software
Llyfr Malachi · Beibl (1620)

Llyfr Malachi 3

1Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i'w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd ARGLWYDD y lluoedd.

2Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel i sebon y golchyddion.

3Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a’u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i'r ARGLWYDD offrwm mewn cyfiawnder.

4Yna y bydd melys gan yr ARGLWYDD offrwm Jwda a Jerwsalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt.

5A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a'r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a'r amddifad, a’r dieithr, ac heb fy ofni i, medd ARGLWYDD y lluoedd.

6Canys myfi yr ARGLWYDD ni’m newidir; am hynny ni ddifethwyd chi, meibion Jacob.

7Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn?

8A ysbeilia dyn DDUW? eto chwi a'm hysbeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y'th ysbeiliasom? Yn y degwm a'r offrwm.

9Melltigedig ydych trwy felltith! canys chwi a'm hysbeiliasoch i, sef yr holl genedl hon.

10Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhy^, a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn.

11Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd.

12A'r holl genhedloedd a'ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd ARGLWYDD y lluoedd. 91 Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i'm herbyn, medd yr ARGLWYDD: eto chwi a ddywedwch. Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di?

13

14Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu DUW: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef, ac er i ni rodio yn alarus gerbron ARGLWYDD y lluoedd?

15Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ie, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ie, y rhai a demtiant DDUW, a waredwyd.

16Yna y rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a'r ARGLWYDD a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.

17A byddant eiddof fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu.

18Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho DDUW a'r hwn nis gwasanaetho ef.

← Llyfr Malachi 2Read In The App, Free →Llyfr Malachi 4 →

Study Llyfr Malachi 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234