Llyfr Malachi 4:2
Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddyginiaeth yn ei esgyll, a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ruth 2:12Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.
Psalms 67:1I'r Pencerdd, Cân neu Salm. Llawenfloeddiwch i DDUW, yr holl ddaear:
Psalms 85:9O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog.
Psalms 103:3Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a'm hesgyrn a boethasant fel aelwyd.
Proverbs 4:18Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.
Isaiah 30:26A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr ARGLWYDD friw el bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt. º