The Bible Software
Llyfr Malachi · Beibl (1620)

Llyfr Malachi 4

1Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.

2Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddyginiaeth yn ei esgyll, a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.

3A chwi a fethrwch yr annuwiolion, canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd.

4Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a'r barnedieaethau.

5Wele, mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD:

6Ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith. Terfyn y Prophwydi.

← Llyfr Malachi 3Read In The App, Free →Matthew 1 →

Study Llyfr Malachi 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234