Yr Efengyl yn ôl Marc 3:24
Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll.
Beibl (1620)
In The King James Version
And if a kingdom be divided against itself, that kingdom cannot stand.
In Context
25Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Marc 3
Cross References
Judges 9:23A Duw a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech: º
2 Samuel 20:1AZ; yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall, a’i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgom, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i’w babell, O Israel. º
1 Kings 12:16A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i’th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i’w pebyll. º
Isaiah 19:2Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas. º
Zechariah 11:14Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
1 Corinthians 1:10Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un fam.