Yr Efengyl yn ôl Marc 9:42
A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Marc 9
Cross References
Matthew 18:6A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.
Matthew 25:45Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau.
Acts 9:4Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?
Romans 14:13Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd, neu rwystr.
Romans 16:17Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.
1 Corinthians 10:32Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw: