The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Marc · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Marc 9

1A efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.

2¶ Ac wedi chwe diwrnod, y cymerth yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a’u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o’r neilitu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt.

3A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid lawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu.

4Ac ymddangosodd iddynt Eleias, gyda Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu.

5A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu. Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un.

6Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu.

7A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab; gwrandewch ef.

8Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyda hwynt.

9A phan oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd, efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, groes, hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw.

10A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain, gan gydymholi beth yw’r atgyfodi o feirw.

11¶ A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf?

12Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth, a’r modd yr ysgrifennwyd am Pab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.

13Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Eleias yn ddiau, a gwneuthur ohonynt iddo yr hyn a fynasant, fel yr ysgrifennwyd amdano.

14¶ A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a’r ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt.

15Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg ato, a gyfarchasant iddo.

16Ac efe a ofynnodd i’r ysgrifenyddion, Pa gydymholi yr ydych yn eich plith?

17Ac un o’r dyrfa a atebodd ac a ddygwydd hwynt. wedodd, Athro, mi a ddygais fy mab atat, ag ysbryd mud ynddo:

18A pha le bynnag y cymero ef, efe a’i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae’n dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.

19Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddy wedodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi.

20A hwy a’i dygasant ef ato. A phan welodd ef, yn y man yr ysbryd a’i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn.

21A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen.

22A mynych y taflodd efe ef yn tân, i’r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymorth ni, gan dosturio wrthym.

23A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo.

24Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i.

25A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti. Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef.

26Ac wedi i’r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.

27A’r Iesu a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a’i cyfododd; ac efe a safodd i fyny.

28Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilitu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.

30¶ Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb.

31Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd.

32Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.

33¶ Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd?

34Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf.

35Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb.

36Ac efe a gymerth fachgen nyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,

37Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.

38¶ Ac Ioan a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.

39A’r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi.

40Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae.

41Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy.

42A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr.

43Ac os dy law a’th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i’r tân anniffoddadwy:

44lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd.

45Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, nag a dau droed gennyt dy daflu i uffern, i’r tân anniffoddadwy:

46Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd.

47Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern:

48Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd.

49Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen.

50Da yw’r halen: ond os bydd yr halen yn ddi-hallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd.

← Yr Efengyl yn ôl Marc 8Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Marc 10 →

Study Yr Efengyl yn ôl Marc 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516