Yr Efengyl yn ôl Mathew 18:19
Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a’r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 18
Cross References
Matthew 5:24Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.
Matthew 21:22A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.
John 14:13A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.
John 15:16Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.
Acts 1:14Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytun mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda’i frodyr ef.
Acts 4:24Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddy¬wedasant, O Arglwydd, tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a’r ddaear, a’r môr, ac oll sydd ynddynt;