The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Mathew · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Mathew 18

1Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?

2A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt;

3Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.

4Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.

5A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a’m derbyn i.

6A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.

7¶ Gwae’r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae y dyn hwnnw drwy’r hwn y daw’r rhwystr!

8Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor hwynt ymaith, â thân oddi wrthyt: gwell yw iti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i’r tân tragwyddol.

9Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan, â thân oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.

10Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

11Canys daeth Mab y dyn i gadw’r hyn a gollasid.

12Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un ohonynt ar ddisberod; oni ad efe y namyn un cant, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio’r hon a aeth ar ddisberod?

13Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.

14Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn.

15¶ Ac os pecha dy frawd i’th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd.

16Ac os efe ni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy.

17Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i’r eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a’r publican.

18Yn wir meddaf i chwi. Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef.

19Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a’r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

20Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.

21¶ Yna y daeth Pedr ato ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith?

22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith; ond, Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith.

23¶ Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision.

24A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.

25A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a feddai, a thalu’r ddyled.

26A’r gwas a syrthiodd i lawr, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll.

27Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo’r ddyled.

28Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o’i gyd-weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a’i llindagodd, gan ddywedyd, tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29Yna y syrthiodd ei gyd-was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll.

30Ac nis gwnai efe; ond myned a’i twrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.

31A phan welodd ei gyd-weision y pethau a wnaethid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai.

32Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am iti ymbil â mi:

33Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd-was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?

34A’i arglwydd a ddigiodd, ac a’i rhoddodd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo.

35Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau.

← Yr Efengyl yn ôl Mathew 17Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Mathew 19 →

Study Yr Efengyl yn ôl Mathew 18

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728