Yr Efengyl yn ôl Mathew 2:1
AC wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Jerusalem,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 2
Cross References
Genesis 10:30A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Sephar, mynydd y dwyrain.
Genesis 49:10Nid ymedy y deyrn-wïalen o Judah, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac atto ef y bydd cynhulliad pobloedd.
1 Kings 4:30A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft.
Job 1:3A’i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion, ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.
Isaiah 11:10y Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a’i orffwysfa fydd yn ogoniant. º
Daniel 9:24Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf.