Yr Efengyl yn ôl Mathew 2:16
Yna Herod, pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy-flwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â'r doethion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd,
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 2
Cross References
Genesis 39:14Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth attaf fi i orwedd gyd â myfi, minnau a waeddais â llef uchel;
Genesis 49:7Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulawn fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
Numbers 24:10¶ Ac ennynodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a darawodd ei ddwylaw ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regu fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’ u bendithiaist y tair gwaith hyn.
2 Kings 8:12A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau. Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ‘ieuainc a leddi â’r cleddyf, a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi. º
Proverbs 27:3Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.
Proverbs 28:17Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i’r pwll; nac atalied neb ef.