Yr Efengyl yn ôl Mathew 21:1
A phan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 21
Cross References
Zechariah 14:4A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua'r gogledd, a'i hanner tua'r deau.
Matthew 26:30Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
Mark 14:26¶ Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
Luke 21:37A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd.
John 8:1A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd: