Yr Efengyl yn ôl Mathew 21:12
¶ A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian, a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 21
Cross References
Exodus 30:13Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr: ugain gerah yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd.
Leviticus 5:7Ond os ei law ni chyrhaedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boeth-offrwm.
Leviticus 12:6A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colommen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod:
Leviticus 14:22A dwy durtur, neu ddau gyw colommen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech-aberth, a’r llall yn boeth-offrwm.
Leviticus 15:14A’r wythfed dydd cymmered iddo ddwy durtur, neu ddau gyw colommen, a deued ger bron yr Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i’r offeiriad.
Deuteronomy 14:24A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ym mhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw: