Llyfr Lefiticus 5:7
Ond os ei law ni chyrhaedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boeth-offrwm.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 5:8A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymmed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.
Leviticus 9:3Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwyddiaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm;
Leviticus 14:21Ond os tlawd fydd, a’i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymmered un oen, yn aberth dros gamwedd, i’w gyhwfanu, i wneuthur cymmod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew yn fwyd-offrwm, a log o olew;
Leviticus 14:31Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, ynghyd â’r bwyd-offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymmod dros yr hwn a lanhêir ger bron yr Arglwydd.
Leviticus 15:15Ac offrymmed yr offeiriad hwynt, un yn bech-aberth, a’r llall yn boeth-offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ef am ei ddiferlif, ger bron yr Arglwydd.
Leviticus 16:5A chymmered gan gynnulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech-aberth, ac un hwrdd yn boeth-offrwm.