Yr Efengyl yn ôl Mathew 26:56
A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 26
Cross References
Genesis 3:15Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
Daniel 9:26Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd diwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol.
Matthew 26:24Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.
Matthew 26:54Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod?
John 16:32Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi.