Yr Efengyl yn ôl Mathew 9:3
Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.
Beibl (1620)
In The King James Version
And, behold, certain of the scribes said within themselves, This man blasphemeth.
In Context
4A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 9
Cross References
Leviticus 24:16A lladder yn farw yr hwn a felldithio enw yr Arglwydd; yr holl gynnulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dïeithr a’r prïodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.
Matthew 26:65Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef.
Mark 7:21Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth,
Luke 5:21A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedydf cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig?;
John 10:33Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.