Llyfr Micha 1:9
Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra.
Cross References
2 Kings 18:13Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda, ac a’u henitlodd hwynt. º
Isaiah 1:5I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg.
Isaiah 8:7Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogonant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef. º
Isaiah 10:32Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem. º
Isaiah 36:2A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, a llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr. º
Jeremiah 15:18Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a’m pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant? º