The Bible Software
Llyfr Micha · Beibl (1620)

Llyfr Micha 1

1Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem.

2Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr ARGLWYDD DDUW yn dyst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd.

3Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod o'i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear.

4A'r mynyddoedd a doddant tano ef, a'r glynnoedd a ymholltant fel cŵyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered.

5Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem?

6Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini.

7A'i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau a losgir yn tân, a'i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant.

8Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan.

9Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.

10Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra.

11Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan.

12Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr ARGLWYDD hyd at borth Jerwsalem.

13Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.

14Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel.

15Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswyl ferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel.

16Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.

← Llyfr Jona 4Read In The App, Free →Llyfr Micha 2 →

Study Llyfr Micha 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567