Llyfr Nehemeia 1:7
Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 27:34Dyma’r gorchymynion a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.
Deuteronomy 4:5Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchymynodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur o honoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu.
Deuteronomy 6:1Annog i ufuddhâu. A dyma y gorchymynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchymynodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu:
1 Kings 2:3A chadw gadwraeth yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech:
2 Chronicles 27:2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad: eithr nid aeth efe i deml yr ARGLWYDD. A’r bobl oedd eto yn ymlygru.
Nehemiah 9:29A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.