Llyfr Nehemeia 10:37
A blaenion ein toes, a’n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein DUW, a degwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 13:12Yna y neilldui i’r Arglwydd bob cyntaf-anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant.
Leviticus 27:30¶ A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a’u pïau: cyssegredig i’r Arglwydd yw.
Numbers 18:12Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, i roddais i ti.
Numbers 18:18Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddehau, y mae yn eiddot ti.
Numbers 18:24Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymmant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ym mysg meibion Israel.
Deuteronomy 26:2Yna cymmer o bob blaen-ffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo: