The Bible Software
Llyfr Nehemeia · Beibl (1620)

Llyfr Nehemeia 10

1A’r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia,

2Seraia, Asareia, Jeremeia,

3Pasur, Amareia, Malcheia,

4Hattus, Sebaneia, Maluch,

5Harim, Meremoth, Obadeia,

6Daniel, Ginnethon, Baruch,

7Mesulam, Abeia, Miamin,

8Maaseia, Bilgai, Semaia: dyma yr offeiriaid,

9A’r Lefiaid: Jesua mab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel,

10A’u brodyr hwynt, Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan,

11Micha, Rehob, Hasabeia,

12Saccur, Serebeia, Sebaneia,

13Hodeia, Bani, Beninu.

14Penaethiaid y bobl; Paros, Pahath-Moab, Elam, Sattu, Bani,

15Bunni, Asgad, Bebai,

16Adoneia, Bigfai, Adin,

17Ater, Hisceia, Assur,

18Hodeia, Hasum, Besai,

19Hariff, Anathoth, Nebai,

20Magpias, Mesulam, Hesir,

21Mesesabeel, Sadoc, Jadua,

22Pelatia, Hanan, Anaia,

23Hosea, Hananeia, Hasub,

24Halohes, Pileha, Sobec,

25Rehum, Hasabna, Maaseia,

26Ac Ahïa, Hanan, Anan,

27Maluch, Harim, Baana.

28A’r rhan arall o’r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a’r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith DDUW, eu gwragedd hwynt, eu meibion, a’u merched, pawb a’r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo,

29Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith DDUW, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas DUW: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr ARGLWYDD ein Harglwydd ni, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau:

30Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni:

31Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled.

32A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein DUW ni,

33A thu ag at y bara gosod, a’r bwyd-offrwm gwastadol, a thu ag at y poeth-offrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pechebyrth, i wneuthur cymod dros Israel, a thuag at holl waith tŷ ein DUW.

34A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein DUW ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i’w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein DUW, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith:

35Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr ARGLWYDD:

36A’r rhai cyntaf-anedig o’n meibion, ac o’n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a chyntaf-anedigion ein gwartheg a’n defaid, i’w dwyn i dŷ ein DUW, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein DUW ni.

37A blaenion ein toes, a’n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein DUW, a degwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni.

38A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda’r Lefiaid, pan fyddo’r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein DUW ni, i’r celloedd yn y trysordy.

39Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwrn yr ŷd, y gwin, a’r olew, i’r ystafelloedd, lle y mae llestri’r cysegr, a’r offeiriaid sydd yn gweini, a’r porthorion, a’r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein DUW.

← Llyfr Nehemeia 9Read In The App, Free →Llyfr Nehemeia 11 →

Study Llyfr Nehemeia 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213