Llyfr Nehemeia 13:6
Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 32:1ac yn gweddïo dros y bobl. Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.
Ezra 6:22Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr ARGLWYDD a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ DDUW, DUW Israel.
Nehemiah 2:5A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi.
Nehemiah 5:14Ac o’r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog.