Llyfr Nehemeia 7:65
A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
66Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain.
Cross References
Leviticus 2:3A bydded gweddill y bwyd-offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.
Leviticus 6:17Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd.
Leviticus 10:17Paham na fwyttasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; o herwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynnulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, ger bron yr Arglwydd?
Numbers 27:21A safed ger bron Eleazar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gynghor drosto ef, yn ol barn Urim, ger bron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gyd âg ef, a’r holl gynnulleidfa.
Ezra 2:63A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac a Thummim.
Nehemiah 10:1A’r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia,