Llyfr Lefiticus 10:17
Paham na fwyttasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; o herwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynnulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, ger bron yr Arglwydd?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 10
Cross References
Exodus 28:43A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cyssegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragywyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ol.
Leviticus 7:6Pob gwrryw ym mysg yr offeiriaid a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef: sancteiddiolaf yw.
Leviticus 21:22Bara ei Dduw, o’r pethau sanctaidd cyssegredig, ac o’r pethau cyssegredig, a gaiff efe ei fwytta.
Numbers 18:1Rhoddi yr offrwm dyrchafael i’r offeiriaid allan o ran y Lefiaid. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyd â thi, a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd â thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
Ezekiel 4:4Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd ty Israel ami; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.
John 1:29Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.