Llyfr Nehemeia 8:2
Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 23:24Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Sabbath, yn goffadwriaeth caniad udgyrn, a chymmanfa sanctaidd.
Deuteronomy 17:18A phan eisteddo ar deyrn-gadair ei frenhiniaeth, ysgrifened iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd ger bron yr offeiriaid y Lefiaid.
Joshua 8:35Nid oedd air o’r hyn oll a orchymynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua ger bron holl gynnulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dïeithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.
Nehemiah 8:18Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith DDUW beunydd, o’r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf. A hwy a gynallasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.
Nehemiah 13:1Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa DUW yn dragywydd;
Malachi 2:7Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a'r gyfraith a geisiant o'i enau ef: oherwydd cennad ARGLWYDD y lluoedd yw efe.