Llyfr Malachi 2:7
Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a'r gyfraith a geisiant o'i enau ef: oherwydd cennad ARGLWYDD y lluoedd yw efe.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 27:21A safed ger bron Eleazar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gynghor drosto ef, yn ol barn Urim, ger bron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gyd âg ef, a’r holl gynnulleidfa.
Deuteronomy 21:5A nesâed yr offeiriaid, meibion Lefi, (o herwydd yr Arglwydd dy Dduw a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr Arglwydd,) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla.
2 Kings 16:11Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus. º
2 Chronicles 17:8A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid.
2 Chronicles 30:22A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau.
Nehemiah 8:2Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis.