Llyfr Nehemeia 8:6
Ac Esra a fendithiodd yr ARGLWYDD, y DUW mawr. A’r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr ARGLWYDD a’u hwynebau tua’r ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:26A’r gwr a ymgrymmodd, ac a addolodd yr Arglwydd.
Exodus 12:27Yna y dywedwch, Aberth Pasc yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aipht, pan drawodd efe yr Aiphtiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymmodd y bobl, ac yr addolasant.
1 Chronicles 29:10Yna y bendithiodd Dafydd yr ARGLWYDD y'ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD DDUW Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragywyddoldeb. º
2 Chronicles 6:4Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â’i ddwylo, gan ddywedyd,
2 Chronicles 29:10Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag ARGLWYDD DDUW Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.
Nehemiah 5:13A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo DUW bob gŵr o’i dŷ, ac o’i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A’r holl gynull¬eidfa a ddywedasant. Amen: ac a folianasant yr ARGLWYDD. A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.