Llyfr Nehemeia 8:7
Jesua hefyd, a Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia,, a’r Lefiaid, oedd yn dysgu y gyfraith i’r bobl, a’r bobl yn sefyll yn eu lle.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 33:10Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogl-darth ger dy fron, a llosg aberth ar dy allor.
2 Chronicles 17:7Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadeia, a Sechareia, a Nethaneel, a Michaia, i ddysgu yn ninasoedd Jwda.
2 Chronicles 30:22A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau.
Ezra 10:22Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.
Nehemiah 3:17Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid, a’r marchnadyddion ar gyfer Rehum mab Bani. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Hasabeia, tywysog hanner rhan Ceila, yn ei fro ei hun.
Nehemiah 3:23Ar ei ôl ef y cyweiriodd Benjamin, a Hasub, gyferbyn a’u tŷ. Wedi yntau Asareia mab Maaseia, mab Ananeia, a gyweiriodd wrth ei dŷ.