Llyfr Nehemeia 9:13
Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o’r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 19:11A byddant barod erbyn y trydydd dydd: o herwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd y’ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.
Exodus 19:18A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.
Exodus 20:22¶ A’r Arglwydd a ddywededd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel, Chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthych.
Deuteronomy 4:10Sef y dydd y sefaist ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion.
Deuteronomy 5:4Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân,
Deuteronomy 10:12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,