Llyfr Numeri 10:29
¶ A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyd â ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ol eu lluoedd, pan gychwynasant.
30Dywedodd yntau wrtho, Nid âf ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr âf.
Cross References
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 15:18Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
Genesis 32:12A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddïau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
Exodus 2:21A bu Moses foddlawn i drigo gyd â’r gwr: ac yntau a roddodd Sephorah ei ferch i Moses.
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Exodus 6:8A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.