Llyfr Numeri 10
1Bendith Moses wrth symmudo a gorphwyso o’r arch. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Gwna i ti ddau udgorn arian, yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynnulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn.
3A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynnulleidfa attat, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
4Ond os âg un y canant; yna y tywysogion, sef pennaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant.
5Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tu a’r dwyrain, a gychwynant.
6Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tu a’r dehau, a gychwynant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.
7Ac wrth alw ynghyd y gynnulleidfa, cenwch yr udgyrn; ond na chenwch larwm.
8A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr udgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau.
9Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymmwr a’ch gorthrymmo chwi; cenwch larwm mewn udgyrn: yna y coffêir chwi ger bron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.
10Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechreu eich misoedd, y cenwch ar yr udgyrn uwch ben eich offrymmau poeth, ac uwch ben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth ger bron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
11¶ A bu yn yr ail flwyddyn, sef yr ail mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.
12A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmmwl a arhosodd yn anialwch Paran.
13Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.
14¶ Ac yn gyntaf y cychwynodd llumman gwersyll meibion Judah yn ol eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.
15Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.
16Ac ar lu llwyth meibion Zabulon, Elïab mab Helon.
17Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.
18¶ Yna y cychwynodd llumman gwersyll Reuben yn ol eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedëur.
19Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisàdai.
20Ac ar lu llwyth meibion Gad, Elïasaph mab Deuel.
21A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cyssegr; a’r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.
22¶ Yna llumman gwersyll meibion Ephraim a gychwynnodd yn ol eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud.
23Ac ar lu llwyth meibion Manasseh, Gamaliel mab Pedasur.
24Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.
25¶ Yna llumman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ol eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahïeser mab Ammisàdai.
26Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagïel mab Ocran.
27Ac ar lu llwyth meibion Naphtali, Ahira mab Enan.
28Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ol eu lluoedd, pan gychwynasant.
29¶ A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyd â ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.
30Dywedodd yntau wrtho, Nid âf ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr âf.
31Ac efe a ddywedodd, Na âd ni, attolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni.
32A phan ddelych gyd â ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna yr Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
33¶ A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orphwysfa iddynt.
34A chwmmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll.
35A hefyd pan gychwynai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a fföed dy gaseion o’th flaen.
36A phan orphwysai hi, y dywedai efe Dychwel, Arglwydd, at fyrddiwn miloedd Israel.