Llyfr Numeri 12:1
Duw yn gorchymyn ei chau hi allan o’r gwersyll. Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a brïodasai efe: canys efe a gymmerasai Ethiopes yn wraig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:3A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg.
Genesis 26:34¶ Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymmerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.
Genesis 28:6¶ Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a’i anfon ef i Mesopotamia, i gymmeryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymmer wraig o ferched Canaan;
Genesis 41:45A Pharaoh a alwodd enw Joseph, Saphnath-Paaneah; ac a roddes iddo Asnath, merch Potipherah offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseph allan dros wlad yr Aipht.
Exodus 2:21A bu Moses foddlawn i drigo gyd â’r gwr: ac yntau a roddodd Sephorah ei ferch i Moses.
Leviticus 21:14Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymmered: ond cymmered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig.