Llyfr Numeri 12
1Duw yn gorchymyn ei chau hi allan o’r gwersyll. Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a brïodasai efe: canys efe a gymmerasai Ethiopes yn wraig.
2A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny.
3A’r gwr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear.
4A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymmwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trïoedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trïoedd.
5Yna y disgynodd yr Arglwydd y’ngholofn y cwmmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau.
6Ac efe a ddywedodd, Gwrandêwch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd prophwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho.
7Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlawn yn fy holl dŷ.
8Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd; paham gan hynny nad oeddych yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses?
9A digofaint yr Arglwydd a ennynodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith.
10A’r cwmmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahan-glwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahan-glwyfus.
11Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, attolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom.
12Na fydded hi, attolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam.
13A Moses a waeddodd ar yr Ar glwydd, gan ddywedyd, O Dduw, attolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.
14¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? cauer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll, ac wedi hynny derbynier hi.
15A chauwyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn.
16Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch Paran.