Llyfr Numeri 12:8
Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd; paham gan hynny nad oeddych yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlawn yn fy holl dŷ.
9A digofaint yr Arglwydd a ennynodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith.
Cross References
Exodus 19:19Pan ydoedd llais yr udgorn yn hir, ac yn cryfhâu fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a attebodd mewn llais.
Exodus 24:10A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saphir, ac fel corph y nefoedd o ddisgleirder.
Exodus 33:19Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di: a mi a drugarhâf wrth yr hwn y cymmerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
Exodus 34:5A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmmwl, ac a safodd gyd âg ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd.
Exodus 34:30A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesâu atto ef.
Numbers 14:14Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ym mysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;)