Llyfr Numeri 13:20
A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaen-ffrwyth grawnwin.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21¶ A hwy a aethant i fynu, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.
Cross References
Numbers 13:23A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorrasant oddi yno gangen âg un swp o rawnwin, ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigys.
Deuteronomy 1:25Ac a gymmerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a’ i dygasant i waered attom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.
Deuteronomy 31:7¶ A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho y’ngolwg holl Israel, Ymgadarnhâ, ac ymnertha: canys ti a âi gyd â’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.
Joshua 1:6Ymgryfhâ, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu y wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.
Joshua 2:1Eu dychweliad a’u newyddion hwynt. A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau wr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ putteinwraig a’i henw Rahab, ac a lettyasant yno.
Joshua 2:22A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arhosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.