Llyfr Numeri 13
1eu newyddion. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gwr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt.
3A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr Arglwydd: pennaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll.
4A dyma eu henwau hwynt. Dros lwyth Reuben, Sammua mab Zaccur.
5Dros lwyth Simeon, Saphat mab Hori.
6Dros lwyth Judah, Caleb mab Jefphunneh.
7Dros lwyth Issachar, Igal mab Joseph.
8Dros lwyth Ephraim, Osea mab Nun.
9Dros lwyth Benjamin, Palti mab Raphu.
10Dros lwyth Zabulon, Gàdiel mab Sodi.
11O lwyth Joseph, dros lwyth Manasseh, Gadi mab Susi.
12Dros lwyth Dan, Amiel mab Gemali.
13Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael.
14Dros lwyth Naphtali, Nahbi mab Fophsi.
15Dros lwyth Gad, Geuel mab Maci.
16Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.
17¶ A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tu a’r dehau, a dringwch i’r mynydd.
18Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt:
19A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd;
20A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaen-ffrwyth grawnwin.
21¶ A hwy a aethant i fynu, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.
22Ac a aethant i fynu i’r dehau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aipht.)
23A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorrasant oddi yno gangen âg un swp o rawnwin, ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigys.
24A’r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno.
25A hwy a ddychwelasant o chwilio y wlad ar ol deugain niwrnod.
26¶ A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynnulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hoi air iddynt, ac i’r holl gynnulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir.
27A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddïau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef.
28Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.
29Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y dehau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd-dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cher llaw yr Iorddonen.
30A gostegodd Caleb y bobl ger bron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fynu, a pherchennogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi.
31Ond y gwŷr y rhai a aethant i fynu gyd âg ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fynu yn erbyn y bobl, canys cryfach ydynt na nyni.
32A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe, a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corphol:
33Ac yno y gwelsom y cawri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cawri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.