Llyfr Numeri 14:10
A’r holl dorf a ddywedasant am en llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 16:10Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tu a’r anialwch; ac wele, gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmmwl.
Exodus 24:16A gogoniant yr Arglwydd a arhôdd ar fynydd Sinai, a’r cwmmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmmwl.
Leviticus 9:23A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl.
Numbers 16:42A bu, wedi ymgasglu o’r gynnulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych o honynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.
Numbers 20:6A daeth Moses ac Aaron oddi ger bron y gynnulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
Matthew 23:37Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!