Llyfr Numeri 14
1Y bobl a fynnai osod ar y wlad yn erbyn ewyllys Duw, yn cael eu taro. Yna yr holl gynnulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno.
2A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aipht! neu, O na buasem feirw yn y diffaethwch hwn!
3A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn yspail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aipht?
4A dywedasant bawb wrth eu gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i’r Aipht.
5Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau ger bron holl gynnulleidfa tyrfa meibion Israel.
6¶ Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunneh, dau o ysbïwyr y tir, a rwygasant eu dillad;
7Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth.
8Os yr Arglwydd sydd foddlawn i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni, sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl.
9Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyd â ni: nac ofnwch hwynt.
10A’r holl dorf a ddywedasant am en llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
11¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia y bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?
12Tarawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt-hwy.
13¶ A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Felly yr Aiphtiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fynu yn dy nerth,)
14Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ym mysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;)
15Os lleddi y bobl yma fel un gwr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn am danat, gan ddywedyd,
16O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffaethwch.
17Yr awr hon, gan hynny, mawrhâer, attolwg, nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd,
18Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhâu ni chyfiawnhâ efe yr euog; ymweled y mae âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
19Maddeu, attolwg, anwiredd y bobl yma, yn ol dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aipht hyd yma. A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ol dy air:
21Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd.
22Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aipht, ac yn y diffaethwch, ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais,
23Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef:
24Ond fy ngwas Caleb, am fnd yspryd arall gyd âg ef, ac iddo fy nghyflawn-ddilyn, dygaf ef i’r tir y daeth iddo: a’i had a’i hetifedda ef.
25(Ond y mae yr Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) y fory trowch, ac ewch i’r diffaethwch, ar hyd ffordd y môr coch.
26¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
27Pa hyd y cyd-ddygaf a’r gynnulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn.
28Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi.
29Yn y diffaethwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,
30Dïau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jephunneh, a Josua mab Nun.
31Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn yspail, hwynt-hwy a ddygaf i’r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi.
32A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffaethwch hwn.
33A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffaethwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosp eich putteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffaethwch.
34Yn ol rhifedi y dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich hanwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i.
35Myfi yr Arglwydd a leferais, dïau y gwnaf hyn i’r holl gynnulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffaethwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.
36A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio y tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir;
37Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir, a fuant feirw o’r pla, ger bron yr Arglwydd.
38Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jephunneh, a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir.
39A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl a alarodd yn ddirfawr.
40¶ A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a awn i fynu i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom.
41A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda.
42Nac ewch i fynu; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion.
43Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ol yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyd â chwi.
44Etto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfammod yr Arglwydd, a Moses, ni symmudasant o ganol y gwersyll.
45Yna y disgynodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a’u trawsant, ac a’u difethasant hyd Hormah.