Llyfr Numeri 15:30
¶ Ond y dyn a wnel bechod mewn rhyfyg, o brïodor, neu o ddïeithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 17:14A’r gwrryw dïenwaededig, yr hwn ni enwaeder cnawd ei ddïenwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfammod i.
Exodus 30:33Pwy bynnag a gymmysgo ei fath, a’r hwn a roddo o hono ef ar ddyn dïeithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
Leviticus 20:6¶ A’r dyn a dro ar ol dewiniaid, a brudwyr, i butteinio ar eu hol hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.
Numbers 9:13A’r gwr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasc, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymmor: ei bechod a ddwg y gwr hwnnw.
Deuteronomy 1:43Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fynu i’r mynydd.
Deuteronomy 29:19A bod, pan glywo efe eiriau y felldith hon, ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio y’nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched: