Llyfr Numeri 15
1Cyfraith y rhidens. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i dir eich preswylfod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i chwi,
3Ac offrymmu o honoch aberth tanllyd i’r Arglwydd, offrwm poeth, neu aberth wrth dalu adduned, neu mewn offrwm gwirfodd, neu ar eich gwyliau gosodedig, gan wneuthur arogl peraidd i’r Arglwydd, o’r eidionau, neu o’r praidd:
4Yna offrymmed yr hwn a offrymmo ei rodd i’r Arglwydd, o beilliaid ddegfed ran, wedi ei gymmysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd-offrwm.
5Ac offrwm di gyd â’r offrwm poeth, neu yr aberth, bedwaredd ran hin o win am bob oen, yn ddïod-offrwm.
6A thi a offrymmi yn fwyd-offrwm gyd â hwrdd, o beilliaid ddwy ddegfed ran, wedi ei gymmysgu trwy drydedd ran hin o olew.
7A thrydedd ran hin o win yn ddïod-offrwm, a offrymmi yn arogl peraidd i’r Arglwydd.
8A phan ddarperych lo buwch yn offrwm poeth, neu yn aberth yn talu adduned, neu aberth hedd i’r Arglwydd;
9Yna offrymmed yn fwyd-offrwm gyd â llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymmysgu trwy hanner hin o olew.
10Ac offrwm hanner hin o win yn ddïod-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
11Felly y gwneir am bob ŷch, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fỳn.
12Yn ol y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i bob un, yn ol eu rhifedi.
13Pob prïodor a wna y pethau hyn felly, wrth offrymmu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd.
14A phan ymdeithio dïeithrddyn, neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenhedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd; fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntau.
15Yr un ddeddf fydd i chwi o’r dyrfa, ac i’r ymdeithydd dïeithr; deddf dragywyddol yw trwy eich cenhedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dïeithr ger bron yr Arglwydd.
16Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyd â chwi.
17¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
18Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo;
19Yna pan fwyttaoch o fara y tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r Arglwydd.
20O flaenion eich toes yr offrymmwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr-dyrnu, felly y dyrchefwch hithau.
21O ddechreu eich toes y rhoddwch i’r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenhedlaethau.
22¶ A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchymynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses,
23Sef yr hyn oll a orchymynodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o’r dydd y gorchymynodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenhedlaethau;
24Yna bydded, os allan o olwg y gynnulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i’r holl gynnulleidfa ddarparu un bustach ieuangc yn offrwm poeth, i fod yn arogl peraidd i’r Arglwydd, â’i fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm, wrth y ddefod, ac un bwch geifr yn bech-aberth.
25A gwnaed yr offeiriad gymmod dros holl gynnulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt; canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i’r Arglwydd, a’u pechaberth, ger bron yr Arglwydd, am eu hanwybodaeth.
26A maddeuir i holl gynnulleidfa meibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg; canys digwyddodd i’r holl bobl trwy anwybod.
27¶ Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd; yna offrymmed afr flwydd yn offrwm dros bechod.
28A gwnaed yr offeiriad gymmod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd ger bron yr Arglwydd, gan wneuthur cymmod drosto; a maddeuir iddo.
29Yr hwn a aned o feibion Israel, a’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.
30¶ Ond y dyn a wnel bechod mewn rhyfyg, o brïodor, neu o ddïeithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
31O herwydd iddo ddïystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr-dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.
32¶ Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffaethwch, cawsant wr yn cynnutta ar y dydd Sabbath.
33A’r rhai a’i cawsant ef, a’i dygasant ef, sef y cynnuttwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynnulleidfa.
34Ac a’i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.
35A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gwr yn farw: llabyddied yr holl gynnulleidfa ef â meini o’r tu allan i’r gwersyll.
36A’r holl gynnulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.
37¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
38Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenhedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre.
39A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchymynion yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ol eich calonnau eich hunain, nac yn ol eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hol:
40Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchymynion i, ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw.
41Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Dduw.