Llyfr Numeri 15:32
¶ Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffaethwch, cawsant wr yn cynnutta ar y dydd Sabbath.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 16:23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Y fory y mae gorphwysfa Sabbath sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch heddyw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.
Exodus 20:8Cofia y dydd Sabbath, i’w sancteiddio ef.
Exodus 35:2Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Sabbath gorphwys i’r Arglwydd: llwyr-rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.