Llyfr Numeri 15:39
A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchymynion yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ol eich calonnau eich hunain, nac yn ol eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hol:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
40Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchymynion i, ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw.
Cross References
Exodus 13:9A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: o herwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aipht.
Deuteronomy 4:23Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfammod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a ammododd efe â chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
Deuteronomy 6:12Yna cadw arnat, rhag anghofio o honot yr Arglwydd, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
Deuteronomy 11:28A melldith, oni wrandêwch ar orchymynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio o honoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddyw, i fyned ar ol duwiau dïeithr, y rhai nid adnabuoch.
Job 31:7Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo:
Psalms 106:39Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.