Llyfr Numeri 15:9
Yna offrymmed yn fwyd-offrwm gyd â llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymmysgu trwy hanner hin o olew.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Ac offrwm hanner hin o win yn ddïod-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Cross References
Leviticus 7:37Dyma gyfraith y poeth-offrwm, y bwyd-offrwm, a’r aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd, a’r cyssegriadau, a’r aberth hedd;
Numbers 28:12A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy olew, gyd â phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy olew, gyd â phob hwrdd;
Numbers 29:6Heb law poeth-offrwm y mis, a’i fwyd-offrwm, a’r poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.
Nehemiah 10:33A thu ag at y bara gosod, a’r bwyd-offrwm gwastadol, a thu ag at y poeth-offrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pechebyrth, i wneuthur cymod dros Israel, a thuag at holl waith tŷ ein DUW.
Ezekiel 46:5A bwyd-offrwm o effa gyda'r hwrdd< a rhodd ei law o fwyd-offrwm gyda'r wyil, a hin o olew gyda'r effa.
Ezekiel 46:11Ac ar y gwyliau a'r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd-offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda'r wyn, a hin o olew gyda'r effa.